Croeso i wefan Ysgol Gymraeg Ynysgedwyn!
Lleolir Ysgol Gymraeg Ynysgedwyn yn nhref fach Ystradgynlais, yn ne orllewin Powys, de Cymru.
Mae tua 170 o blant yn yr ysgol.
Cafodd yr ysgol ei sefydlu ym 1906 fel ysgol gyfrwng Saesneg ond yn 1956 fe ddaeth yn ysgol benodedig Gymraeg. Mae pob un o’r gwersi yn cael eu haddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae’r ysgol wedi cael saith pennaeth ers ei sefydlu'n ysgol benodedig Gymraeg. Y pennaeth presennol yw Mr Ceri Emanuel.
Welcome to Ysgol Gymraeg Ynysgedwyn’s Website!
Ysgol Gymraeg Ynysgedwyn is in the small town of Ystradgynlais, in the south west corner of Powys, in south Wales.
There are 170 pupils on roll at the school.
The school was founded in 1906 as an English medium school but in 1957 it became a designated Welsh medium school. All our lessons are through the medium of Welsh.
The school has had seven headteachers since becoming Welsh medium. The present headteacher is Mr Ceri Emanuel.
Croeso
Pleser o’r mwyaf yw eich croesawu i Ysgol Gymraeg Ynysgedwyn.
Ein nod yn Ynysgedwyn yw darparu awyrgylch diogel, teuluol lle gall ein plant ddatblygu’n ddinasyddion cyflawn. I’r perwyl hwn, cynigir cwricwlwm cytbwys ac eang i’r plant yn ystod a thu allan i oriau swyddogol yr ysgol gan dîm o addysgwyr ymroddgar a phrofiadol. Teimlaf ein bod yn darparu yn Ysgol Gymraeg Ynysgedwyn ail gartref diogel, sydd mor hanfodol i sicrhau bod eich plentyn yn datblygu i’w lawn botensial.
Fel ysgol gyfrwng Cymraeg, ein nod yw magu pobl ifainc sy’n ymfalchio yn ein hiaith, ein hetifeddiaeth a’n diwylliant er mwyn cyfrannu’n llawn at gymdeithas gyfoes. Ein cred yw – ‘dwy iaith; dau gyfle’.
Fel staff a llywodraethwyr, edrychwn ymlaen at y cyfle i gyd-weithio’n agos gyda chi fel teulu i sicrhau addysg o’r radd flaenaf i’ch plentyn.
Os hoffech fwy o wybodaeth neu os dymunech alw am sgwrs neu weld yr ysgol, cysylltwch â fi i drefnu amser cyfleus.
CW Emanuel
Pennaeth
It gives me great pleasure to welcome you to Ysgol Gymraeg Ynysgedwyn.
Our aim at Ynysgedwyn is to provide a safe, welcoming environment where our children can develop into well-rounded citizens. To this end, we offer a broad and balanced curriculum both during and outside official school hours delivered by a team of committed and experienced staff. I feel that we provide, in Ysgol Gymraeg Ynysgedwyn, a secure second home which is so essential in ensuring that your child develops and reaches his or her full potential.
As a Welsh medium school, our aim is to nurture young people who are proud of our language, our inheritance and our culture so that they can fully contribute to modern society. Our belief is “two languages, two opportunities”.
If you would like more information, or if you would like to call for a chat or see the school, please contact the Headteacher to arrange a convenient time.
CW Emanuel
Headteacher
|